Huw Thomas, arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd (Llun: Cyngor Caerdydd)
Mae grŵp Llafur Cyngor Caerdydd wedi dewis cynghorydd newydd i arwain y grŵp a’r Cyngor gan gymryd lle’r arweinydd presennol, Phil Bale.

Cafodd Huw Thomas ei ddewis mewn cyfarfod neithiwr lle’r oedd pedwar ymgeisydd arall yn ceisio am yr arweinyddiaeth.

Fe ddaeth hi i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod “amheuon” os allai Phil Bale barhau yn arweinydd Cyngor Caerdydd wedi iddo fod wrth y llyw ers 2014, gyda rhai cynghorwyr yn dweud nad oedd ganddyn nhw “hyder ynddo.”

Llwyddodd Llafur i ddal eu gafael ar y brifddinas gan ennill mwyafrif o 40 sedd, ond y Ceidwadwyr bellach yw prif wrthblaid y cyngor gyda 20 sedd, yn hytrach na’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Daw Huw Thomas yn wreiddiol o Aberystwyth, ac mae’n gynghorydd ar ward Sblot.