Union fis cyn yr Etholiad Cyffredinol, mae gwefan gymdeithasol Facebook wedi cyhoeddi cyfres o hysbysebion i helpu darllenwyr adnabod newyddion ffug.

Mae’r hysbysebion wedi ymddangos mewn nifer o bapurau newydd heddiw, ac maen nhw’n annog darllenwyr i amau penawdau a gwirio ffynonellau cyn credu’r stori.

Daw hyn wedi i’r wefan ddod o dan feirniadaeth lem yn ddiweddar, gyda honiadau i newyddion ffug oedd yn cael eu rhannu arni gyfrannu at fuddugoliaeth Donald Trump y llynedd.

‘Anghyfrifol’

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Pwyllgor Dethol Materion Cartref Llywodraeth Prydain ddweud bod Facebook a gwefannau cymdeithasol eraill yn “hollol anghyfrifol” am y modd y maen nhw’n delio â newyddion ffug a deunydd eithafol.

Mae Facebook  yn dweud eu bod nhw eisoes wedi gwaredu â “miloedd” o gyfrifon ffug yng ngwledydd Prydain.

“Rydym wedi datblygu ffyrdd newydd i adnabod a gwaredu â chyfrifon ffug a allai fod yn lledu newyddion ffug,” meddai Simon Milner, cyfarwyddwr polisi technoleg Facebook yn y Deyrnas Unedig.