Cynghorydd Emlyn Dole
Mae Plaid Cymru wedi ymuno â chynghorwyr annibynnol i barhau â’u gweinyddiaeth lwyddiannus o Gyngor Sir Caerfyrddin fel clymblaid.

Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dweud ei fod “wrth ei fodd” â chanlyniadau etholiadau’r sir ac mae wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i arwain y Cyngor, gyda’r Cynghorydd Mair Stephens – arweinydd newydd y grŵp annibynnol – yn ddirprwy iddo.

Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch aelodau’r Bwrdd Gweithredol eto ond bydd y swyddi’n cael eu rhannu rhwng y ddau grŵp. Bydd gan Blaid Cymru saith aelod a bydd y tri aelod arall yn dod o’r Grŵp Annibynnol.

Nid oes dim cyhoeddiadau wedi cael eu gwneud eto ynghylch pwy fydd yn arwain pob un o bortffolios Bwrdd Gweithredol y Cyngor.

“Er nad yw Sir Gaerfyrddin erioed wedi pleidleisio am reolaeth fwyafrif, does dim plaid wedi bod mor agos ag y bu Plaid Cymru y tro hwn, sydd yn dangos yn glir ein cyflawniadau yn y ddwy flynedd ddiwethaf wrth inni arwain y glymblaid gref hon gyda’r Grŵp Annibynnol,” meddai Enlyn Dole.

“Rydym yn falch ein bod yn gallu parhau â’n partneriaeth lwyddiannus gyda’r grŵp annibynnol i roi cryfder, sefydlogrwydd a pharhad i’r Cyngor wrth inni symud ymlaen â’n cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.”