Gavin Hill-John
Dyw Gavin Hill-John ddim ond wedi bod yn cynrychioli Pentyrch ers dwy flynedd… ac wrth sefyll heddiw, mae’n llwyr ymwybodol o’r her sydd o’i flaen.

Daeth y cynghorydd Torïaidd i lenwi’r sedd yn 2015 yn dilyn isetholiad lle llwyddodd i guro mab cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, Hywel Wigley, o ddim ond 18 pleidlais.

Gyda Hywel Wigley yn sefyll yn ei erbyn unwaith eto, mae Gavin-Hill John yn mynnu fod y gystadleuaeth yr un mor waraidd ag yr oedd ddwy flynedd yn ôl.

“Mae gan Hywel a finnau llawer o barch tuag at ein gilydd,” meddai wrth golwg360. “Rydym yn nabod ein gilydd yn bersonol, ac mae’r ddau ohonon ni yn byw yn lleol ac yn ymgeiswyr lleol. Cawsom ni ymgyrch digon cyfeillgar tro diwethaf ac mae hynny’n parhau â’r ymgyrch yma.

“Wrth gwrs byddwn yn herio ein gilydd ac yn ymgyrchu dros ein maniffestos ein hunain, ac wrth gwrs mi fyddwn yn brwydro’n galed, ond mi fydd hi’n ymgyrch gyfeillgar hefyd.

“Dw i’n siŵr bydd Hywel a finnau yn ysgwyd llaw ar ôl cael y canlyniadau.”

Er bod Gavin Hill-John yn falch i groesawu ymgyrch “hynaws” arall ym Mhentyrch mae’n mynnu nad oes unrhyw un yn gobeithio gweld canlyniad tebyg i un 2015 eto.

“Does dim un ohonom ni eisiau i’r canlyniadau fod mor dyn y tro yma. Dw i’n siŵr bod Hywel eisiau ennill o marjin eithaf sylweddol a hoffwn i hefyd … Dw i’n gobeithio wna’i ennill gyda mwy ond mae’n anodd dweud. Mae Hywel yn ymgyrchydd da, yn adnabyddus a ni fyddaf yn tanbrisio ei her.”

Deiliad y ward

Mae Gavin Hill-John yn ffyddiog ei fod â mantais wrth gystadlu y tro yma gan ei fod yn gynghorydd sy’n ddeiliad y ward ac wedi cael cyfle i brofi ei hun i’r gymuned.

“Yn naturiol fel y cynghorydd sy’n ddeiliad y ward, os ydych wedi gwneud eich swydd yn dda – a dw i’n credu fy mod i – mae’n rhoi chi mewn safle da,” meddai.

“Dw i wedi gweithio’n galed iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf i fod yn bositif ac yn angerddol dros ein cymuned. Gobeithiaf fod y preswylwyr yn gwerthfawrogi  bod hi’n hawdd cysylltu â fi.”

Wrth drafod at y gystadleuaeth rhwng y pleidiau yng Nghaerdydd mae Gavin Hill-John yn dweud fod “pawb yn herio Llafur,” ac mae’r cynghorydd yn rhagweld anffawd i’r blaid eleni.