Mae ymgeiswyr arlywyddol Ffrainc wedi mynd ben-ben mewn dadl danllyd ar deledu byw.

Aeth y ddau ymgeisydd Emmanuel Macron a Marine Le Pen wyneb yn wyneb i’w gilydd brynhawn ddoe, wrth iddyn nhw geisio ennill cefnogaeth pleidleiswyr y wlad cyn etholiad dydd Sul, Mai 7.

Fe gyfeiriodd Marine Le Pen ati’i hun fel “ymgeisydd y bobol, ymgeisydd dros y Ffrainc rydym ni’n ei charu” a dywedodd bod Emmanuel Macron yn was i fusnesau mawr, yn gwrthod gwrthwynebu ffwndamentaliaeth Islamaidd, a dywedodd hefyd bod angen “difa’r ideoleg Islamaidd”.

Ar y llaw arall, roedd Emmanuel Macron yn mynnu y byddai ef yn “brwydro yn erbyn brawychiaeth Islamaidd” a chyhuddodd Marine Le Pen o gynorthwyo’r brawychwyr trwy ledu casineb â “rhethreg erchyll”. Dywedodd bod ei gystadleuydd yn ceisio elwa o ddicter pleidleiswyr y wlad gan ddweud ei bod yn “dweud celwyddau trwy’r amser” ac “yn cynnig dim byd.”