Andrew RT Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi galw am atal arian i Gylchffordd Cymru am y tro.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi adroddiad sy’n codi pryderon am y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r sefyllfa.
Cafodd y mater ei grybwyll yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ym Mae Caerdydd yn sgil adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, sy’n feirniadol o’r modd y mae Llywodraeth Cymru’n ymdrin â £9.3m o arian trethdalwyr.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at “ddealltwriaeth gyfyng” y cwmnïau sydd ynghlwm wrth y broses o adeiladu’r trac rasio gwerth £425m yng Nglyn Ebwy.
Mae lle i gredu bod arian wedi cael ei wario ar elfennau’r prosiect sydd y tu hwnt i ganllawiau’r grantiau, ac mae pryderon hefyd am bellter rhai o’r cwmnïau sy’n rhan o’r prosiect o Glyn Ebwy.
Ymddiheuriad
Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog brynhawn ddoe, galwodd Andrew RT Davies am ymddiheuriad gan Carwyn Jones, gan alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o fuddsoddiadau yn y prosiect tan bod y sefyllfa’n cael ei datrys.
“Roedd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ddamniol yn ei ddyfarniad ar y modd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin â’r prosiect hwn,” meddai.
“Unwaith eto, ry’n ni wedi gweld diffyg llywodraethiant gadarn yn nhermau defnydd Llafur o arian cyhoeddus ond eto, mae’r Prif Weinidog yn haerllug wrth wrthod ymddiheuro.”
Ychwanegodd fod “perygl go iawn” fod “anallu” wedi niweidio “cysyniad cyffrous”, a bod “cwestiynau difrifol i’w hateb”.
“Mae’n hanfodol fod moratoriwm ar fuddsoddi pellach yn y prosiect hwn tan bod y rhain wedi cael eu datrys a bod penderfyniad terfynol ar y prosiect.
“Yn blwmp ac yn blaen, does dim syndod nad yw’r cyhoedd yn ymddiried yn Llafur o ran arian cyhoeddus.”