Yr Ysgrifenndd Tremor, Boris Johnson (llun cyhoeddus)
Mae chwaer Boris Johnson yn cyhuddo’i brawd a’i gyd-ymgyrchwyr Brexit o yrru Prydain dros y dibyn ac o werthu ‘nwyddau diffygiol’ yn y refferendwm y llynedd.

Dywed Rachel Johnson, sydd bellach wedi ymuno â’r Democratiaid Rhyddfrydol, fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn hunan-laddiad i Brydain.

Yn ei cholofn yn y Mail on Sunday heddiw, dywed:

“Y rheswm fy mod i wedi mynd cyn belled ag ymuno â gwrthblaid yw oherwydd bod y nwyddau a gafodd eu dangos inni gan y Brexiteers yn arwerthiant y refferendwm wedi bod yn ddiffygiol.

“Mae’r addewid o £350 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd wedi mynd, bydd yn rhaid i fewnfudo aros ar y lefelau presennol, ac mae twf economaidd yn arafu.

“A dyw Brexit ddim hyd yn oed wedi digwydd eto. Ac felly i mi, yr unig le i fynd yw at y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Roedd arnaf eisiau gwneud safiad a dangos fy ngwrthwynebiad i’r cyrch hunan-ddinistriol i’n tynnu ni allan o Ewrop a thros ddibyn.”