Christian Kern, Canghellor Awstria
Mae canghellor Awstria, Christian Kern, wedi dweud na ddylai Twrci gael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a bod angen i’r Undeb roi trefn o’r newydd ar ei pherthynas â’r wlad.

“Fe ddylai’r Undeb Ewropeaidd greu perthynas newydd â Thwrci,” meddai Christian Kern wrth newyddiadurwyr ym Mrwsel, a bod hynny’n golygu ystyried materion economaidd, diogelwch a buddiannau ffoaduriaid.

Roedd yn cyfeirio hefyd at y ffaith bod gwefan Wikipedia ddim ar gael i bobol Twrci heddiw, oherwydd gwaharddiad gan lywodraeth y wlad.

“Mae’n rhaid i ni frysio i roi trefn ar bethau, oherwydd allwn ni ddim fforddio cael gwlad ansefydlog o 80 miliwn o bobol ar stepen drws Ewrop.”

Roedd yr Undeb Ewropeaidd wedi addo y câi Twrci ddechrau trafod y posibilrwydd o ddod yn aelod, yn y gobaith y byddai Twrci, wedyn, yn rhwystro ffoaduriaid rhag teithio oddi yno i Ewrop.