Donald Tusk (Llun: Plaid Pobl Ewrop CCA 2.0)
Mae llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, wedi pwysleisio’r angen i arweinwyr Ewrop aros yn unedig wrth wynebu ar drafod amodau Brexit gyda’r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth gyrraedd uwch-gynhadledd arbennig ym Mrwsel i drafod y mater, lle mae 27 o wledydd yr Undeb yn cyfarfod i drafod sut i ymdrin â’r cyfnod nesaf.

“Mae angen i ni aros yn unedig,” meddai Donald Tusk. “Dim ond o wneud hynny y bydd hi’n bosib i ni gynnal y trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig. Ac mae undeb gweddill aelodau’r Undeb Ewropeaidd hefyd o ddiddordeb i’r Deyrnas Unedig.

“Ar hyn o bryd, dw i’n teimlo cefnogaeth gref gan pob un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys y Senedd a’r 27 o wledydd sy’n aelodau. Mae hon yn sefyllfa unigryw, ond dw i’n hyderus na fydd y teimlad o undeb yn newid.”