Mae’r syniad o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru wedi’i groesawu mewn lansiad yn Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Gwener (Ebrill 28).

Yn ôl rhai o ddisgyblion yr ysgol 3–19 oed, mae’n “hen bryd” i gael senedd o’r fath lle byddai pobol ifanc yn cael eu hethol i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Rhai o’r materion oedd yn bwysig i griw’r ysgol hon oedd addysg, iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus, economi a ffïoedd dysgu.

‘Llais i Gymru’

“Mae ffioedd dysgu uchel yn amharu ar addysg pobol ifanc achos mae’n atal llawer o bobol rhag mynd i brifysgol,” meddai Ffion Evans wrth golwg360.

Gwella trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardal wledig oedd yn bwysig i Briallt Williams; a datblygu’r gwasanaeth iechyd fyddai Lleucu Ifans am weld y senedd newydd yn ei drafod.

Ac yn ôl un sydd eisoes wedi bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Prydain, Nest Jenkins, mae’n bwysig i gael senedd o’r math yng Nghymru:

“Mae wastad wedi bod yn broblem gyda Chymru ein bod ni’n cael ein categoreiddio o dan Brydain felly yn bendant byddai cael llais i Gymru o fantais fawr inni,” meddai.

Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad i sefydlu’r senedd ieuenctid yn cael ei gynnal dros y deufis nesaf, tan Fehefin 30.

Mae creu senedd ieuenctid yn rhan o ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad a daw’r ymgynghoriad yn sgil cyhoeddiad y Siarter Ymgysylltu â Phobol Ifanc yn 2014.

Bydd disgwyl i bobol ifanc ymateb i’r ymgynghoriad drwy feddwl am enw i’r senedd, ei nod, pwy fydd yr aelodau, a beth fydd ei rôl a’i gwerthoedd.