Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae ymgynghoriad newydd fydd yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc lunio senedd ieuenctid newydd i Gymru, yn cael ei lansio heddiw.

Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones, yn lansio’r ymgynghoriad yn ei hen ysgol, sef Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobl ifanc feddwl am enw i’r senedd ieuenctid, ei nod, pwy fydd yr aelodau, a beth fydd ei rôl a’i gwerthoedd.

Mae senedd ieuenctid yn rhan allweddol o ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i roi llais i blant a phobl ifanc ar lefel genedlaethol a daw’r ymgynghoriad yn sgil cyhoeddiad y Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn 2014.

Llais ieuenctid Cymru

“Mae hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan fel dinasyddion. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i feddwl o’r newydd am sut i roi hyn ar waith,” dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Rwy’n falch iawn o gael lansio’r ymgynghoriad hwn a fydd yn rhoi llais iddynt ar lefel genedlaethol ac yn rhoi system ar waith a fydd yn dylanwadu’n fawr ar waith ein Senedd a’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan Fehefin 30, a bydd yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddiwedd mis Mai.