Cynllun y Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae golwg360 wedi cael cadarnhad y bydd Ieuan Wyn Jones yn rhoi’r gorau i’w swydd yn Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai yn ystod y misoedd nesaf – p’un ai fydd o’n ennill sedd Ynys Môn ai peidio.

Neithiwr, fe gafodd ei ddewis i sefyll dros Blaid Cymru yn Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Mae Prifysgol Bangor wedi dweud wrth golwg360 mai bwriad Ieuan Wyn Jones ydi camu o’r neilltu “pan fydd y parc yn dod yn weithredol yn ystod y misoedd nesaf”.

Fe ddechreuodd gwaith adeiladu’r parc ar safle ar gyrion pentref Gaerwen, Ynys Môn, ar ddiwedd mis Hydref y llynedd.

Datganiad

“Mae Ieuan Wyn Jones wedi arwain y Parc Gwyddoniaeth yn llwyddiannus drwy’r cyfnod datblygu, a’i fwriad oedd sefyll i lawr fel Cyfarwyddwr pan fydd y parc yn dod yn weithredol yn ystod y misoedd nesaf,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Mae’r prosiect ar amser, o fewn ei chyllideb a chyda rhestr iach o denantiaid posib y mae disgwyl iddynt fod ymysg y preswylwyr cyntaf pan agorir yr adeilad cyntaf wedi iddo agor.

“Mae tîm llawn o staff mewn lle i roi’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol er mwyn sefydlu parc gwyddoniaeth llwyddiannus.”

Wnaethon nhw ddim ymateb i’r cwestiwn a fyddan nhw’n hysbysebu swydd Ieuan Wyn Jones.