John Bruton
Mae cyn-brif weinidog Iwerddon sydd bellach yn un o lysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd, wedi annog ei wlad i “wneud popeth o fewn ei gallu” i sicrhau na fydd proses Brexit yn digwydd.

Fe fyddai cynlluniau Theresa May ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud difrod amhosib ei fesur “yn wleidyddol, yn emosiynol ac yn economaidd”, meddai John Bruton wrth un o bwyllgorau senedd Iwerddon.

“Allwn ni ddim aros a gadael i hyn ddigwydd,” meddai.

“Tra’n bod ni’n ystyried lliniaru effeithiau’r Brexit caled y mae Mrs May wedi’i ddewis, mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siwr fod yna ddim Brexit yn y pen draw.”

“Camarwain” 

Fe aeth yn ei flaen i gyhuddo Ysgrifennydd Tramor llywodraeth San Steffan, Boris Johnson, o gamarwain etholwyr y Deyrnas Unedig “mewn modd anghyfreithlon” ynglyn â chanlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe geisiodd Boris Johnson symleiddio pwnc Brexit gan ddweud y byddai modd cael popeth eu ffordd nhw,” meddai.

“Roedd e’n siarad mewn cymalau bachog, ac roedd y cyfan yn gamarweiniol ac yn anfoesol.

“Fe fu’n gyfrifol am gamwarwain anghyfreithlon,” meddai John Bruton wedyn, cyn ei gywiro’i hun a thymheru ei sylwadau rhyw ychydig. “Ond roedd o’n gyfrifol am gamarwain pobol gwledydd Prydain.”

Fe allai’r Deyrnas Unedig eto newid ei meddwl ynglyn â gadael yr Undeb Ewropeaidd, unwaith y byddai’r etholwyr wedi deall holl oblygiadau hynny, meddai wedyn.