Boris Johnson
Fe allai lluoedd gwledydd Prydain ymuno â lluoedd America wrth iddyn nhw gymryd camau milwrol yn erbyn llywodraeth Syria.

Ac fe allai hynny olygu bod yr Ysgrifennydd Tramor yn dewis peidio gofyn am sêl bendith Ty’r Cyffredin er mwyn awdurdodi ymosodiad.

Mae Boris Johnson  yn dweud y byddai hi’n “anodd iawn dweud ‘Na'” pe bai Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gofyn i wledydd Prydain am help i ymosod ar gyfundrefn Bashar Assad.

Fe daniodd America daflegrau Cruise at dargedau yn Syria yn gynharach y mis hwn, wedi i Bashar Assad, yn honedig, ladd degau o’i bobol ei hun gyda’r nwy sarin.