Mae aelodau Plaid Cymru yn Ynys Môn wedi dewis Ieuan Wyn Jones, eu cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad, yn ymgeisydd yn etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Roedd hi’n agos yn y diwedd, gyda’r gwaith o gyfrif pleidleisiau yn cymryd tua tri chwarter awr.

Mewn hystings yng Nghapel Moreia, Llangefni am saith o’r gloch heno, fe glywodd yr aelodau gan bedwar o ddynion a oedd yn awyddus i gael eu dewis i sefyll. Roedd hi’n 9.25yh ar y canlyniad yn cael ei gyhoeddi.

Roedd Dyfrig Jones, Vaughan Williams, Ieuan Wyn Jones ac Elliott Riley-Walsh wedi taflu eu hetiau i’r cylch erbyn hanner nos, nos Sul ddiwethaf.

Fe dynnodd tri arall yn ôl o’r ras yn fuan wedi’r dedlein – John Rowlands, Iwan Huws ac Ann Griffith.