Recep Tayyip Erdogan - enillydd y refferendwm
Mae’r brif wrthblaid yn Twrci wedi cyhoeddi y bydd yn herio canlyniad yr etholiad arlywyddol y wlad yn y Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae’r Arlywydd Erdogan yn dweud fod y bleidlais ar Ebrill 16 yn rhoi rhagor o rymoedd i’r swydd.

Ond mae Plaid Weriniaethol y Bobl yn gwrthwynebu’r refferendwm ar sawl cyfri, gan gynnwys un penderfyniad i gyfri’ a derbyn papurau pleidleisio oedd ddim wedi’u stampio’n swyddogol.

Fe ddaw’r cyhoeddiad diweddara’ hwn ddiwrnod wedi i oruchaf lys Twrci wrthod cais gan y blaid i wyrdroi penderfyniad y bleidlais.

Er i Recep Tayyip Erdogan a’i blaid ennill y bleidlais, roedd o’n ganlyniad agos dros ben.