Arlene Foster (Llun: PA)
Mae arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, Arlene Foster wedi dweud bod plant sy’n siarad yr iaith Wyddeleg wedi codi ei chalon.

Daeth ei sylwadau ar ôl ymweld ag ysgol Wyddeleg yn Newry, County Down er mwyn deall y cariad sydd at yr iaith ymhlith plant a phobol ifanc o gefndiroedd anwleidyddol.

“Roedd yr hyn roedd y bechgyn a’r merched wedi dweud wrtha’i a dangos i fi wedi codi fy nghalon y bore ma,” meddai.

“Roedd hi’n hyfryd, ces i fore arbennig.”

Beirniadaeth

Cafodd Arlene Foster ei beirniadu’n ddiweddar am ddweud bod mwy o bobol yn siarad Pwyleg yng Ngogledd Iwerddon nag sy’n siarad y Wyddeleg, gan ddweud na fyddai ei phlaid yn cytuno i basio deddf er mwyn gwarchod yr iaith.

Mae gwarchod y Wyddeleg drwy Ddeddf Iaith yn un o brif bolisïau Sinn Fein.

Dywedodd ddydd Mawrth ei bod hi wedi gwneud y sylw am ei bod hi’n gweld y drafodaeth fel un wleidyddol a’i bod hi’n teimlo bod angen “camu nôl” o’r ddadl a “gwrando ar y bobol sy’n caru’r iaith”.

Ond yn dilyn ei hymweliad, dywedodd mai da o beth fyddai “tynnu’r wleidyddiaeth allan o’r mater a gwrando’n astud ar sut mae’r Wyddeleg wedi helpu i astudio ieithoedd eraill a rhoi mantais iddyn nhw mewn perthynas â chyfleoedd gwaith hefyd.”