Guto Bebb
Tra bod pleidleiswyr traddodiadol y blaid Lafur “wedi troi at UKIP a phleidiau eraill”, mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Aberconwy yn edrych ymlaen at weld y Torïaid yn ennill mwyafrif clir yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1850au.

Wrth gyfeirio at ymchwil yr Arglwydd Michael Ashcroft a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos, mae Guto Bebb yn dweud fod UKIP wedi bod fel “bom i bleidleiswyr Llafur”- bom sydd wedi llacio gafael y blaid ar Gymru ac sydd wedi creu cyfle i’r Ceidwadwyr.

“Os ydach chi wedi bod yn bleidleisiwr Llafur traddodiadol ers degawdau a bod chi wedi dewis pleidleisio i UKIP, yna rydach chi wedi neud y penderfyniad i droi eich cefn ar y blaid yr oeddech yn arfer pleidleisio iddi hi,” meddai wrth golwg360.

“Yr honiad, wedyn, ydi ei bod hi’n haws mynd ymlaen i bleidleisio dros blaid arall. Felly, dw i’n meddwl bod yna botensial gyda’r Ceidwadwyr i dargedu pobol sydd wedi gadael Llafur a dewis cefnogi UKIP.

“Yr hyn mae pobol yn dueddol o beidio gwneud yng Nghymru ydi edrych ar beth sydd wedi bod yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd,” meddai wedyn.

“Felly be ydan ni’n dueddol o anwybyddu yw bod yna ddirywiad tymor hir wedi bod yn y bleidlais Lafur, ac efallai mai rŵan ydi’r pwynt lle mae’r dirywiad hwnnw’n cael ei grisialu.”

Mae Guto Bebb yn tynnu sylw at seddi cadarnle’r blaid yn y Cymoedd gan nodi dirywiad y gefnogaeth yn Nhorfaen a’r Rondda fel prif enghreifftiau.

“Pleidlais unfrydol”

Mae Guto Bebb hefyd wedi mynd i’r afael â sylwadau gan aelodau o’i blaid yn Aberconwy sydd yn awgrymu ei fod wedi cael ethol i gynrychioli’r etholaeth dan amodau annheg.

“Ges i’n ethol yn unol â rheolau’r blaid Geidwadol, doedd yna ddim problem,” meddai. “Oedd hi’n bleidlais unfrydol, a dw i’n falch fy mod wedi cael fy newis.”