Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru wedi cydnabod fod gan y blaid “fynydd i’w ddringo” cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin.

Yn ôl Carwyn Jones, mae angen i’r blaid dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn greu maniffesto gyda’r “apêl ehangaf bosib.”

Dywedodd fod angen maniffesto i ddangos “cynllun i’r llywodraeth” yn hytrach na chyfleu “grŵp protestio” yn unig.

Mae’r pôl piniwn a gyhoeddwyd ddoe yn awgrymu y gallai Llafur golli 10 sedd yng Nghymru – a cholli Etholiad Cyffredinol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1918.

‘Dod drwyddi’

Dywedodd Carwyn Jones fod Llafur wedi wynebu her debyg cyn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd ond eu bod “wedi dod drwyddi” ac yn ôl mewn grym.

“Mae mynyddoedd yno i gael eu concro, ac mae’n hynod bwysig dros yr wythnosau nesaf fod Jeremy [Corbyn] yn llwyddo i ddangos y byddai’n gwneud Prif Weinidog da,” meddai wrth raglen BBC Radio 4.

Ychwanegodd fod angen i’r maniffesto fod yn fwy na “dogfen sy’n sôn am ymgyrchu neu’n gwneud inni edrych fel grŵp protestio. Mae’n rhaid inni ddangos i’r bobol fod gennym gynllun am lywodraeth.”

Theresa May – Casnewydd

Daw sylwadau Carwyn Jones wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, ymweld â Chymru heddiw (dydd Mawrth) gan gynnwys safle dur yng Nghasnewydd.

Fe rybuddiodd y byddai clymblaid rhwng y pleidiau yn ymgais i danseilio’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.