Banc bwyd (Llun: Ymddiriedolaeth Trussell)
Mae mwy o bobol nag erioed wedi defnyddio cyfleusterau banciau bwyd yng ngwledydd Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell cafodd bron 1.2 miliwn o gyfleusterau brys eu dosbarthu’r llynedd mewn banciau bwyd, gyda 1,182,954 o becynnau bwyd yn cael eu dosbarthu  sy’n gynnydd o 17% (neu 70,000) o gymharu â’r llynedd.

Roedd 440,000 o’r pecynnau hyn wedi’u dosbarthu i blant, yn ôl yr elusen.

Ac un o’r rhesymau allai fod yn cyfrannu at hyn, meddai’r adroddiad, yw’r oedi o chwe wythnos cyn i bobol dderbyn eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf sy’n arwain at broblemau ariannol o ran rhent a dyledion, gyda phobol yn troi wedyn at fanciau bwyd.

‘Rhybudd cynnar’

“Mae banciau bwyd yn dangos sut mae newid yn y system les yn effeithio pobol felly gallwn gynnig rhybudd cynnar i’r bobol sy’n gwneud y penderfyniadau,” meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, David McAuley.

Mewn ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain – “O dan Gredyd Cynhwysol, mae pobol yn symud i waith yn gynt ac yn aros yno’n hwy o gymharu â’r hen system.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n hawlio Credydau Cynhwysol yn hyderus yn rheoli eu harian ac rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi’r rheiny sydd angen help ychwanegol,” meddai’r llefarydd.