Leanne Wood (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn ymweld â Bangor heddiw wrth iddi lansio ymgyrch ei phlaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin.

Ei neges yw y bydd Plaid Cymru’n ceisio cynnig “gobaith” yn ystod “dyddiau tywyll” y Ceidwadwyr – gan hefyd elwa ar “wendid a rhaniadau’r” Blaid Lafur.

Llafur – ‘wan ac wedi’i rhannu’

“Ar ôl Mehefin 8, bydd llywodraeth Geidwadol yn ceisio dwyn miliynau o bunnau oddi wrth Gymru,” meddai Leanne Wood.

“Bydd swyddi yn y fantol, diwydiannau ffermio a thwristiaeth yn ansicr, ein prifysgolion mewn risg a’r gwariant cyhoeddus wedi’i wasgu.”

Ac mae Llafur yn rhy “wan a rhanedig” i wrthwynebu hyn, meddai, gan ddweud fod Plaid Cymru am geisio atal “ein cenedl rhag cael eu rhoi o’r neilltu, a’n pobol yn cael eu hanghofio.”

Seddi

Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru dair sedd yn San Steffan, sef Hywel Williams yn Arfon; Jonathan Edwards yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Liz Saville Roberts yn Nwyfor Meirionnydd.

Mae Leanne Wood wedi cadarnhau na fydd hi’n sefyll yn etholaeth y Rhondda, ond mae Ieuan Wyn Jones a phedwar arall yn ceisio enwebiad ar gyfer Plaid Cymru yn Ynys Môn – un o’r seddi y maen nhw’n targedu.

‘Cymryd cyfrifoldeb’

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi taro’n ôl gan ddweud y dylai Plaid Cymru “gymryd cyfrifoldeb” am nifer o broblemau Cymru o ganlyniad i ‘glymbleidio gyda Llafur’.

“O ganlyniad mae’n rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldeb am nifer o broblemau sy’n wynebu Cymru heddiw o’r economi sy’n tangyflawni i’r gwasanaethau cyhoeddus gwantan,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.