Paul Nuttall (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae arweinydd UKIP yng ngwledydd Prydain wedi gwrthod dweud a fydd e’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin eleni.

Mae disgwyl y bydd e’n sefyll ar ran UKIP er iddo golli yn yr isetholiad yn Stoke-on-Trent ym mis Chwefror eleni.

Fe bleidleisiodd Stoke-on-Trent i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda 69.4% o’r bleidlais fis Mehefin diwethaf, ond ni lwyddodd UKIP i ennill tir yno ym mis Chwefror gydag Aelod Seneddol Llafur, Gareth Snell, yn cipio’r sedd.

Er hyn awgrymodd Paul Nuttall y byddai’n barod i barhau’n arweinydd y blaid pe na bai yn cael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin.