Llygredd awyr yn Llundain Llun: PA
Mae’r Llywodraeth yn wynebu camau cyfreithiol o’r newydd ar ôl ceisio gohirio cyhoeddi ei chynlluniau i fynd a’r afael a llygredd awyr tan ar ôl yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Roedd gweinidogion wedi cael tan 4yp ddydd Llun i amlinellu mesurau drafft i daclo lefelau anghyfreithlon o lygredd nitrogen deuocsid, sy’n cael ei achosi’n bennaf gan allyriadau disel.

Daeth yn sgil dyfarniad llys  y llynedd  nad oedd mesurau presennol y Llywodraeth yn cwrdd â gofynion y gyfraith.

Ond yn hwyr bnawn dydd Gwener fe wnaeth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gais o’r newydd yn yr Uchel Lys i ohirio cyhoeddi’r cynlluniau tan ar ôl 8 Mehefin.

Roedd Defra yn dadlau bod hyn yn angenrheidiol er mwyn cadw at reolau “purdah” yr etholiad sy’n ymwneud a chyhoeddiadau’r llywodraeth yn ystod cyfnod etholiadol.

Mae ClientEarth, y cwmni amgylcheddol a oedd wedi dwyn yr achos yn erbyn y Llywodraeth yn wreiddiol, yn ystyried a fyddan nhw’n herio’r cais.

Dywedodd y prif weithredwr James Thornton eu bod yn dal i ystyried eu camau nesaf gan ddweud bod hyn “yn fater o iechyd cyhoeddus nid gwleidyddiaeth” a bod angen i’r cynlluniau fod yn eu lle mor fuan â phosib.