Angus Robertson (llun o'i wefan)
Mae pob un o’r 54 o Aelodau Seneddol presennol yr SNP wedi cael eu hail-ddewis fel ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

O’r 56 a gafodd eu hethol yn 2015, mae dwy bellach yn eistedd fel aelodau annibynnol, ac felly heb fod yn gymwys i’w hail-ddewis.

Mae’r SNP yn chwilio hefyd am ymgeiswyr i’r tair sedd yn yr Alban na lwyddodd i’w hennill ddwy flynedd yn ôl.

“Mae’r etholiad cyffredinol hwn yn hanfodol i’r math o wlad y mae arnom eisiau bod,” meddai dirprwy arweinydd yr SNP a’r arweinydd yn San Steffan, Angus Robertson. “Allwn ni ddim caniatáu i’r Torïaid orfodi toriadau llymach a mwy o lymder ar yr Alban.

“Tra bod y Torïaid yn rhoi buddiannau sinicaidd eu plaid yn gyntaf, fe fydd yr SNP bob amser yn rhoi’r Alban yn gyntaf.

“Gyda Llafur mewn anhrefn llwyr, ASau’r SNP yw’r unig wir wrthblaid i’r llywodraeth Dorïaidd.”