Ymgeiswyr posib y Blaid, yn glocwedd o'r chwith uchaf: Ann Griffith, John Rowlands, Vaughan Williams, Dyfrig Jones.
Mae o leiaf bedwar o bobol wedi rhoi eu henwau ymlaen i herio’r Blaid Lafur yn Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8.

Daeth cadarnhad i golwg360 bod Dyfrig Jones, Vaughan Williams, Ann Griffith a John Rowlands yn bwriadu cyflwyno cais i gael sefyll yn enw Plaid Cymru.

Mae si bod mwy o enwau wedi’u cyflwyno i swyddfa Plaid Cymru yn Llangefni, ond doedd y blaid ddim yn fodlon cadarnhau faint na phwy sydd wedi ceisio am enwebiad.

Bydd y cyfnod enwebu yn cau ddydd Sul ac mae disgwyl penderfyniad ar bwy sydd yn mynd benben â’r Aelod Seneddol presennol, Albert Owen, ddydd Llun neu ddydd Mawrth, pan fydd cyfarfod dewis y gangen.

John Rowlands

Yn Etholiad Cyffredinol 2015, daeth John Rowlands yn ail dros y Blaid gan golli o drwch blewyn – 229 o fwyafrif gafodd Albert Owen.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi dod mor agos tro’r blaen. Mi wnaethon ni berswadio llawer o bobol i droi atom ni i gynyddu’r bleidlais a dod yn agos iawn i ennill y sedd,” meddai John Rowlands.

“Dw i’n meddwl bod yr amgylchiadau hyd yn oed yn fwy argyfyngus i Fôn a Chymru tro yma. Rydyn ni wedi cyrraedd croesffordd, mae’r pleidiau Llundeinig Llafur a’r Torïaid yn anwybyddu Cymru ac yn fy marn i, mae’n rhaid i ni roi Cymru ac Ynys Môn nôl ar y map gwleidyddol yn Llundain.”

Dyfrig Jones

Mae Dyfrig Jones, sy’n byw ym Methesda ac yn gynghorydd ar Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd, yn dweud bod cyfle “hollbwysig” gan Blaid Cymru i gipio’r sedd.

“Mae teulu fy nhad i i gyd o Fôn, felly mae gen i gysylltiadau clos efo’r ynys. Mi oedd fy nhaid yn brifathro ar Goleg Pencraig, coleg amaethyddol ar yr ynys,” meddai.

“Mae’n sedd naturiol i fi a ro’n i’n teimlo bod yna gyfle hollbwysig yma i gymryd y sedd gan Blaid Cymru a dw i’n teimlo fy mod i’n ymgeisydd cryf sydd efo cyfle da o fedru cymryd y sedd.”

Ann Griffith

Mae Ann Griffith yn gynghorydd ar Ynys Môn ac yn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

“Dw i’n berson lleol, yn byw a gweithio ar yr ynys ers dros 30 o flynyddoedd. Dw i’n adnabod y cymunedau, a’u pobol a’u hanghenion,” meddai.

“Fel Aelod Seneddol, mi fydda’ i’n brwydro dros yr ynys, Cymru a’i phobol drwy ymladd polisïau creulon Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, fel llymder a Brexit caled.

“Ers 2001, mae Ynys Môn wedi bod yn anweledig a mud yn San Steffan. Mae’n amser hawlio mwy o bwerau a thegwch i Ynys Môn a Chymru.”

Vaughan Williams

Mae Vaughan Williams yn ddyn lleol wnaeth sefyll yn aflwyddiannus dros Blaid Cymru yn Llanelli yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015.

“Dw i’n sefyll oherwydd dw i’n gwybod yn iawn y gall Cymru wneud yn well, yn llawer gwell,” meddai.

“Dw i wedi fy magu yng Nghaergybi a bellach yn athro yn yr ysgol uwchradd yma. Teimlaf fod rhaid i ni godi llais a mynnu tegwch i bawb ym Môn. Hoffwn i fod yn llais cadarnhaol i bawb yma. Nid yn unig Etholiad Brexit fydd hwn ond refferendwm ar record y Torïaid yn San Steffan.”