Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae disgwyl Jeremy Corbyn yng Nghymru heddiw ar yr ail ddiwrnod llawn o ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol brys sydd i’w gynnal ar Fehefin 8.

Bydd yn ymweld ag etholaeth Gogledd Caerdydd, sef sedd y mae’r Ceidwadwyr yn dal gafael arni yn San Steffan ar hyn o bryd, ers i Lafur ei cholli yn 2005.

Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur ymweld â busnesau lleol ar hyd Stryd Fawr Yr Eglwys Newydd yn yr etholaeth.

Mewn araith ddydd Iau, dywedodd fod Llafur “mor gryf a phenderfynol ag erioed” er gwaethaf yr arolygon barn anffafriol yn ei erbyn.