Joe Anderson, Maer Lerpwl
Mae Maer Lerpwl wedi cyhoeddi ei fod yn awyddus i sefyll i fod yn Aelod Seneddol Walton yn etholiad cyffredinol Mehefin 8.

Mae hynny’n golygu y bydd Joe Anderson yn cystadlu am y sedd y mae Steve Rotheram yn ei dal ar hyn o bryd – y dyn sy’n ceisio cael ei ethol yn faer ar Ardal Ddinesig Lerpwl yn etholiad mis Mai.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Joe Anderson heddiw, yn dweud ei fod yn gobeithio cael ei ddewis yn ymgeisydd ar ran y blaid Lafur, os y bydd yn cael sêl bendith pwyllgor cenedlaethol y blaid.

“Dydw i ddim wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn,” meddai Joe Anderson.

“Dw i wedi meddwl yn hir ac yn ddwys, a dw i’n teimlo, yn wyneb etholiad cyffredinol brys fel yr un sydd wedi’i alw ar Fehefin 8, mai dyma’r amser iawn i fi gynrychioli pobol Lerpwl.

“Dros y blynyddoedd, dw i wedi cael fy meirniadu am y ffordd dw i’n gwneud pethau, am fy ffordd blaen o siarad, a dydi fy agwedd bob amser ddim wedi bod at ddant pawb,” meddai wedyn,

“Ond dw i’n credu’n gryf bod yn rhaid i ni i gyd sefyll yn erbyn bwlis, ac mi fydd hi’n gwbwl glir i bobol yn ardal Liverpool Walton fod y llywodraeth yn San Steffan yn benderfynol o fwlian ein dinas ni.”