Fe fydd cynnal etholiad cyffredinol brys yn “gyfle newydd” i drafod y posibilrwydd o Gymru annibynnol, yn ôl YesCymru.

Daeth cyhoeddiad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May brynhawn ddoe y byddai hi’n cyflwyno cynnig gerbron San Steffan heddiw yn galw am yr hawl i gynnal etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Ei nod fydd cryfhau ei llywodraeth yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, er ei bod hi ei hun wedi ymgyrchu o blaid aros.

Ond yn ôl YesCymru, bydd yr etholiad yn gyfle i lywodraeth Geidwadol Theresa May gryfhau eu grym a “[ch]yflwyno polisïau sy’n groes i werthoedd Cymru”.

Nod YesCymru yw ennill annibyniaeth  i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu.

Yr Alban ac Iwerddon

Yn ôl YesCymru, “mae Brexit wedi newid popeth”. Mae lle i gredu y gallai’r Alban alw ail refferendwm annibyniaeth yn fuan, ac mae posibilrwydd y gallai ymgyrch fod ar droed i uno Iwerddon.

Mewn datganiad, dywedodd Iestyn ap Rhobert, cadeirydd YesCymru: “Bydd YesCymru hefyd yn ymgyrchu ar y cyd gyda grwpiau o blaid annibyniaeth yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud yr achos ehangach bod angen creu strwythurau gwleidyddol newydd ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.”

“Mae’n debygol mai Llywodraeth Geidwadol fydd gyda ni eto am gyfnod hir – llywodraeth heb ei hethol gan Gymru, yn gwanhau datganoli yn lle’i gryfhau, ac yn cyflwyno polisïau sy’n groes i werthoedd Cymru.

“Mae brys newydd i’n hymgyrch dros annibyniaeth i Gymru.”