Mae adroddiadau ar led fod Theresa May yn bwriadu gwrthod cynnig i fod yn rhan o ddadleuon teledu cyn yr etholiad cyffredinol posib ar Fehefin 8.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Stryd Downing awgrymu y byddai’r Prif Weinidog yn gwrthod cynnig i fod yn rhan o ddadl deledu.

Ac mae hyn wedi corddi’r dyfroedd ymysg arweinwyr y pleidiau eraill gyda Leanne Wood, Plaid Cymru, yn troi at wefan gymdeithasol Twitter i ddweud, “mae democratiaeth yn mynnu fod yr holl leisiau  yn cael eu clywed.

Ychwanegodd Jeremy Corbyn, arweinydd y blaid Lafur, “os yw’r Etholiad Cyffredinol yn ymwneud ag arweinyddiaeth, fel dywedodd Theresa May y bore yma, dylai hi ddim bod yn osgoi dadleuon teledu wyneb yn wyneb.”

Ac yn ôl Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, “Rwy’n disgwyl i’r darlledwyr wneud y peth iawn… os na fydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan – rhowch gadair wag yno,” meddai.

Cafodd dadleuon teledu eu cynnal am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain adeg etholiadau cyffredinol 2010, ac yna yn 2015, ond mae llefarydd ar ran y BBC wedi dweud ei bod yn rhy fuan i wybod a fyddan nhw’n rhoi cynnig i gynnal y dadleuon.

Bydd pleidlais yn cael ei gynnal yn y Tŷ Cyffredin yfory (Ebrill 19) lle bydd angen i’r Prif Weinidog gael cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau Seneddol i alw’n swyddogol am yr etholiad brys.