Glyn Davies AS
Troi at goedwigaeth yw un o’r dewisiadau amlycaf i amaethwyr yng Nghymru yn y dyfodol, wrth i farchnadoedd cig oen wegian dan ansicrwydd Brexit.

Daw sylwadau Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies, wrth iddo fynegi pryder am ddyfodol cymorthdaliadau ffermio ar ôl 2020, sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd drwy’r Rhaglen Ddatblygu Gwledig.

Dywedodd Glyn Davies fod angen diogelu marchnad allforio cig oen o Gymru, neu dewis arall fyddai symud “yn raddol o ffermio defaid i goedwigaeth.”

‘Ehangu coedwigaeth’

Wrth gyfeirio at ddyfodol y cymorthdaliadau dywedodd ei fod yn rhagweld mwy o bwyslais ar gynlluniau amgylcheddol.

“Efallai y gallai hyn gynnwys plannu coed ar dir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn dir âr neu i dda byw,” meddai.

“Rwy wedi meddwl ers tro y byddai cynllun i ehangu coedwigaeth yn gwneud synnwyr, yn economaidd ac yn amgylcheddol,” meddai wedyn, gan ddweud fod cyfle i ddatblygu llwybrau cerdded, beicio neu weithgareddau awyr agored, lle mae ffermwyr eisoes yn arallgyfeirio yn y maes.

Allforion cig oen

“Dyw hi ddim yn sefyllfa iach i unrhyw ddiwydiant fod yn ddibynnol ar gymorthdaliadau i’r dyfodol pell, ond byddai toriad ymyl dibyn yn 2020 yn drychinebus,” meddai wrth gyfeirio at ddyfodol y cymorthdaliadau.

Cyfeiriodd at ansicrwydd marchnad i gig oen Cymreig y tu allan i’r Farchnad Sengl lle mae’r tariffau’n isel gan ddweud fod Cymru’n “hynod ddibynnol” ar allforion cig oen.

“Gobeithio y bydd cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys allforion cig oen, ond yn y tymor hirach, fe allwn weld datblygiadau ar gyfer marchnadoedd eraill neu symudiad graddol o ffermio defaid i goedwigaeth efallai,” meddai.