Hywel Williams yn Nhy'r Cyffredin
Mae Aelod Seneddol Arfon am weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â’r broblem o dai anaddas sydd wedi cael eu hinswleiddio.

Yn ôl Hywel Williams, mae nifer o bobol ei etholaeth wedi cael eu heffeithio gan broblemau lleithder a thamprwydd yn eu tai yn gysylltiedig â inswleiddio.

Bydd Hywel Williams yn cynnal dadl yn San Steffan ddydd Mercher i geisio mynd i’r afael â’r broblem yng Nghymru ac i sicrhau fod pobol sydd wedi cael eu heffeithio yn derbyn iawndal.

Ers dros ddegawd mae inswleiddio wedi bod yn cael ei ddarparu dan gynlluniau sawl Llywodraeth i leihau gwastraff ynni mewn tai.

“Anfoddhaol”

“Fe wnaeth llawer o fy etholwyr fanteisio ar y cyfle i inswleiddio waliau ceudod, gan gredu ei fod yn addas i’w cartrefi ac ar gyfer yr amodau tywydd lleol,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.

“Mae’r broses iawndal i breswylwyr hyd yn hyn wedi bod yn anfoddhaol, gyda phobl sy’n agored i niwed yn cael eu gadael mewn cartrefi llaith.

“Mae’r cynllun gwarant diwydiant wedi methu llawer o ddioddefwyr ac mae diffygion difrifol yn cynnwys agwedd elyniaethus tuag at ddioddefwyr.”

“Mae yna gyfle yma i’r llywodraeth gywiro’r broblem,” meddai wedyn, “a dw i’n erfyn arnyn nhw i gymryd camau pendant i amddiffyn defnyddwyr rhag camymddwyn pellach ac i wneud yn iawn am yr holl bobol sydd wedi cael eu heffeithio’n negyddol gan y cynllun yma.”

Cydnabod bod angen gwella

“Rydym yn cydnabod bod angen gwella’r inswleiddio yn ein tai hŷn ond fel cafodd ei nodi yn adroddiad BRE Cymru, rhaid gwneud hyn yn y ffordd iawn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn ymwybodol o’r goblygiadau i berchnogion tai – risgiau i iechyd a’r straen caiff ei achosi  pan mae pethau’n mynd o’i le.”

Bydd arolwg newydd yn cael ei gynnal rhwng 2017 a 2018 fydd yn diweddaru’r ystadegau presennol am y nifer o dai yng Nghymru sydd â phroblemau inswleiddio.