Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw’r alwad am etholiad cyffredinol brys fel cyfle i Gymru gael mwy o Aeodau Seneddol i sefyll yn erbyn y Ceidwadwyr.

Yn ôl Leanne Wood, mae angen i Gymru gael “llais rhesymol yn San Steffan, gan amddiffyn ein cysylltiadau economaidd hollbwysig gydag Ewrop a gweddill y byd.”

Dywedodd fod Plaid Cymru yn “unedig” ac yn barod i weithio dros fuddiannau Cymru gan gystadlu ar gyfer pob sedd “i wneud yn siŵr fod gan Gymru lais cryfach nag erioed o’r blaen”.

“Gan fwyaf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru fydd yn cael eu hethol, y cryfaf fydd llais Cymru,” meddai Leanne Wood.

Wrth gyfeirio at Lafur dywedodd, “mae’r wrthblaid swyddogol wedi ei rhannu ac yn methu â chytuno ar safbwynt ar faterion o bwys anferth.”