Andrew RT Davies
Croesawu’r alwad am etholiad cyffredinol brys y mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud mai dyma’r “penderfyniad cywir”.

Yn ôl Andrew RT Davies, fe allai’r etholiad fod yn gyfle i sichrau “arweinyddiaeth gref a chadarn” ar gyfer Cymru a gwledydd Prydain wrth wynebu Brexit.

“Yma yng Nghymru, mae Llafur a’r cenedlaetholwyr Cymreig wedi bod yn gwadu Brexit, ac wedi ceisio tanseilio’r broses ymhob cam,” meddai Andrew RT Davies wrth golwg360.

Dywedodd fod cyfle i bleidleisio rhwng “arweinddiaeth Theresa May” neu “anrhefn ac anallu” Jeremy Corbyn.

“Mae angen sicrwydd ac undod, nid gemau gwleidyddol, a bydd pob pleidlais i’r Prif Weinidog ar Fehefin yr 8fed yn cryfhau llaw Prydain yn y trafodaethau o’n blaenau,” ychwanegodd.