Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn lawnsio eu maniffesto heddiw ar gyfer yr etholiadau lleol ar Fai 4, gan alw ar bobol i ymwrthod â’r Blaid Lafur.

Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn cynnwys cynllun chwe phwynt sy’n cynnwys gwneud trethi cyngor yn “decach”, casglu biniau yn fwy rheolaidd a rhoi mwy o gefnogaeth i gyn-filwyr.

Mae’r Ceidwadwyr yn dweud hefyd y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau – drwy ddefnyddio busnesau lleol, yn annog pobol i ailgylchu’n well a chyfyngu ar ddatblygu tai i ardaloedd “addas”.

Yn ôl Janet Finch-Saunders, sy’n llefarydd y blaid yn y Cynulliad ar Lywodraeth Leol, mae “hunanfoddhad” Llafur a Phlaid Cymru yn “dal cymunedau Cymru yn ôl”.

“Mae cynghorau dan arweiniad Llafur a Phlaid Cymru yn parhau i ddal ein cymunedau yn ôl gyda hunanfoddhad sydd wedi golygu bod ein strydoedd mawr yn gwaethygu, ein tiroedd gwyrdd yn lleihau a’n biliau treth cyngor yn mynd y tu hwnt i reolaeth,” meddai. 

“Yng Nghonwy, mae’r cyngor Llafur/Plaid wedi symud at gasglu biniau bob mis, gan ofyn i drigolion dau mwy am lai o ran gwasanaethau cyhoeddus.

“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig gall lanhau llanast Llafur.”

Llafur yn taro’n ôl

Ond mae Llafur Cymru wedi lambastio’r Ceidwadwyr am eu honiadau, gan ddweud eu bod wedi “methu â delifro i bobol leol” yn yr unig gyngor mae’r blaid yn ei reoli, sef Sir Fynwy.

“Yn hytrach na chefnogi cenedlaethau’r dyfodol, fe wnaethon nhw dorri’r gyllideb addysg o £3.2m,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru.

“Yn hytrach na biliau treth gyngor decach, mae’r cyngor Torïaidd wedi cynyddu biliau bron i 25% yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer eleni yn unig.

“Mae pobol sy’n byw yn ardal cyngor Sir Fynwy bellach yn talu dros £230 yn fwy mewn treth gyngor nag oedden nhw’n gwneud ychydig flynyddoedd yn ôl.”