Fe allai pwerau Gogledd Iwerddon gael eu trosglwyddo o Stormont yn ôl i San Steffan pe na bai cytundeb rhwng y pleidiau.

Dyna rybudd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, James Brokenshire wrth i’r trafodaethau ddod i ben ar gyfer y Pasg.

Yr opsiwn arall, meddai, yw cynnal etholiad brys pe na bai llywodraeth yn cael ei ffurfio erbyn dechrau mis nesaf.

Dywedodd fod y ffrae rhwng y pleidiau’n “anorchfygol”, ac y gallai hynny arwain at “gamau pellach” er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.

Y sefyllfa bresennol

Mae hi bron iawn yn chwe wythnos ers etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, ond dydy’r pleidiau ddim wedi dod i gytundeb ar nifer o faterion allweddol.

Ymhlith y rhain mae Deddf Iaith Wyddeleg newydd.

Mae’r DUP a Sinn Fein yn beio’i gilydd am yr oedi.