Mae swyddog y wasg y Ty Gwyn wedi ymddiheuro wedi iddo wneud sylwadau “ansensitif” ynglyn â’r Holocost wrth iddo gyfeirio at ddefnydd arlywydd Syria o arfau cemegol.

Yn ol Sean Spicer, fe wnaeth “gyfeiriad anaddas ac ansensitif” am yr Holocost mewn cyfweliad â sianel deledu CNN pan nad oedd cymhariaeth o gwbwl, meddai wedyn, rhwng yr ymosodiad ar bobol gyffredin yn Syria a lladd yr Iddewon mewn siamberi nwy.

“Fy nghamgymeriad i oedd o,” meddai am ddweud nad oedd “hyd yn oed Adolf Hitler” wedi plymio mor isel â defnyddio arfau cemegol.