Theresa May a Donald Trump yn cwrdd yn yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr eleni (Llun: PA)
Mae Theresa May a Donald Trump wedi cytuno bod cyfle i geisio pwyso ar Rwsia i dorri ei chysylltiad â llywodraeth Bashar Assad, wrth i’r ddau drafod yr argyfwng yn Syria dros y ffôn.

Bu Arlywydd yr Unol Daleithiau yn diolch i’r Prif Weinidog am ei chefnogaeth i’w ymosodiadau milwrol ar luoedd llywodraeth Syria wythnos ddiwethaf.

Yn ôl yr Unol Daleithiau, roedd eu taflegrau wedi dinistrio 20% o awyrennau Syria.

Mae Donald Trump hefyd wedi trafod y sefyllfa gyda Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, sydd wedi datgan ei chefnogaeth i’r ymosodiadau milwrol.

“Setliad gwleidyddol parhaol”

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod Theresa May a Donald Trump hefyd wedi cytuno bod ymweliad Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson, a Moscow, yn gyfle i “geisio dod o hyd i ddatrysiad a fydd yn sicrhau setliad gwleidyddol parhaol” yn Syria.

Mae’r Prif Weinidog, sydd ar wyliau yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cael ei diweddaru’n gyson am y digwyddiadau yn Syria.

Roedd Donald Trump wedi gorchymyn cyfres o ymosodiadau yn erbyn llywodraeth Syria wythnos ddiwethaf mewn ymateb i’r ymosodiad cemegol ar dref  Khan Sheikhoun pan gafodd 87 o bobl, gan gynnwys plant, eu lladd.

Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson,  sy’n cwrdd â gweinidogion tramor gwledydd yr G7 yn yr Eidal, wedi rhybuddio y gallai uwch-swyddogion milwrol Rwsia wynebu sancsiynau rhyngwladol.