Bashar Assad (Llun: Agencia Brasil CCA 2.5)
Fe allai uwch-swyddogion milwrol Rwsia, sy’n gysylltiedig a chyd-lynu’r ymosodiadau ar bobl Syria gyda’r Arlywydd Bashar Assad, wynebu sancsiynau rhyngwladol.

Dyna rybudd yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson wrth i weinidogion tramor gwledydd yr G7 gwrdd yn yr Eidal i drafod y rhyfel cartref yn Syria.

Mae Boris Johnson wedi apelio o’r newydd ar Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, i roi’r gorau i gefnogi llywodraeth Syria yn sgil yr ymosodiad cemegol ar dref yn nhalaith Idlib wythnos ddiwethaf.

Petai Rwsia yn parhau i gefnogi Syria, meddai, fe fyddan nhw’n cael eu “heintio” gan ei gweithredoedd ac fe allen nhw wynebu sancsiynau rhyngwladol o ganlyniad, meddai Boris Johnson.

“Ateb heddychlon”

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi gorchymyn cyfres o ymosodiadau yn erbyn llywodraeth Syria wythnos ddiwethaf mewn ymateb i’r ymosodiad ar dref  Khan Sheikhoun pan gafodd 87 o bobl, gan gynnwys plant, eu lladd.

Yn sgil hynny, mae’n rhaid i Rwsia benderfynu a yw am barhau i gefnogi llywodraeth Assad neu “gyd-weithio gyda gweddill y byd i ddod o hyd i ddatrysiad gwleidyddol,” meddai Boris Johnson.

Wrth i’r tensiynau rhyngwladol gynyddu, mae Downing Street wedi galw ar y gwledydd i gyd-weithio i ddod o hyd i ateb heddychlon i’r gwrthdaro a fydd yn dod a sefydlogrwydd i Syria.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson, wedi dweud y bydd “y rheiny sy’n cyflawni troseddau yn erbyn pobl ddiniwed unrhyw le yn y byd” yn cael eu dwyn i gyfrif.