Mae un person o wledydd Prydain ymhlith pedwar o bobol a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol yn Stockholm.

Cafodd ei enwi fel Chris Bevington, 41 oed.

Cafodd dwsinau’n rhagor eu hanafu pan blymiodd lori i ganol torf o bobol oedd yn cerdded ar y stryd ym mhrifddinas Sweden ddydd Gwener.

Roedd y tri arall fu farw’n dod o Wlad Belg a Sweden, yn ôl yr heddlu.

Cafodd dyn 39 oed o Uzbekistan ei arestio.