Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson yn edrych yn “dwp” ac mae e mewn “trafferthion gwleidyddol dwfn”, yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson dynnu’n ôl o daith i Fosgo i gyfarfod â Sergey Lavrov, ond fe fydd yr Ysgrifennydd Gwladol Rex Tillerson yn mynd ar y daith i drafod yr anghydfod yn Syria.

Yn ôl Alex Salmond, mae penderfyniad Boris Johnson yn gwneud iddo edrych “fel rhyw fath o mini-me” nad oes modd ymddiried ynddo.

‘Ymddiried’

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Mae Boris Johnson jyst yn edrych yn dwp.

“Beth yw’r ddadl dros beidio â pharhau â’r ymweliad? Mae Rex Tillerson yn mynd ddydd Mercher felly mae’n rhaid nad ydyn ni wedi mynd i Ryfel Oer o safbwyntio peidio â siarad o gwbl.

“Mae’r syniad o fethu ag ymddiried yn yr Ysgrifennydd Cartref oherwydd y posibilrwydd y gallai ddilyn ei drywydd ei hun neu feddwl yn annibynnol neu fynd yn groes i’r hyn y mae’r Americaniaid yn mynd i ddweud yn gwneud iddo edrych fel rhyw fath o mini-me i’r Unol Daleithiau.

“Nid dyna’r sefyllfa y byddai unrhyw Ysgrifennydd Tramor am fod ynddi.

“Mae Boris Johnson yn edrych fel pe bai e mewn trafferthion gwleidyddol dwfn y bore ma.”