Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi tynnu’n ôl o ymweliad â Moscow yn sgil yr ymosodiad cemegol yn Syria a chefnogaeth Rwsia i gyfundrefn Bashar Assad.

Roedd Boris Johnson wedi trefnu i ymweld â Rwsia ddydd Llun am drafodaethau gydag ysgrifennydd tramor Rwsia, Sergey Lavrov. Hwn fyddai’r ymweliad cyntaf gan ysgrifennydd tramor o Brydain ers dros bum mlynedd.

Wrth gollfarnu’r Kremlin, dywedodd Boris Johnson y byddai’n canolbwyntio yn lle hynny ar ddatblygu cefnogaeth gyda chynghreiriaid i sicrhau cadoediad yn Syria.

“Rydym yn ffieiddio at amddiffyniad parhaus Rwsia o gyfundrefn Assad hyd yn oed ar ôl yr ymosodiad arfau cemegol ar bobl gyffredin ddiniwed,” meddai.

“Rydym yn galw ar Rwsia i wneud popeth posibl i ddod â setliad gwleidyddol yn Syria a gweithio gyda gweddill y gymuned ryngwladol i sicrhau na fydd digwyddiadau dychrynllyd yr wythnos ddiwethaf yn cael eu hailadrodd.”