Mae’r grwp arfog ETA yng Ngwlad y Basg wedi rhoi’r gorau i’w arfau a’i ffrwydron – ond mae’n rhybuddio nad yw’r broses ddad-arfogi wedi’i chwblhau eto.

Maen nhw wedi cyhoeddi llythyr heddiw sy’n dweud bod yr holl arfau a ffrwydron wedi’u rhoi i “gynrychiolwyr y gymdeithas ddinesig”. Mae’r llythyr wedi’i ddyddio heddiw (dydd Gwener) ac yn cario sêl ETA.

Dyma’r tro cynta’ mewn pum mlynedd i ETA gyhoeddi datganiad o unrhyw fath, ers i’r grwp roi’r gorau i weithredu’n dreisgar er mwyn ceisio sefydlu gwladwriaeth annibynnol Basg yn ne Ffrainc ac yng ngogledd Sbaen.

Mae llywodraethau Sbaen a Ffrainc wedi dweud bod ETA “wedi’i drechu”, a dydyn  nhw ddim yn fodlon cymryd rhan yn y broses ildio a throsglwyddo arfau. Mae’r ddwy lywodraeth yn mynnu y dylai ETA chwalu.

Yn ei lythyr, mae ETA yn cyhuddo’r llywodraethau o fod yn “styfnig”.

“Rydyn ni’n rhybuddio y gall y broses gael ei dinistrio gan wrthwynebwyr heddwch,” meddai ETA.

Ond mae’r awdurdodau’n atgoffa bod 829 o bobol eu lladd mewn ymosodiadau gan ETA dros gyfnod o 43 blynedd.