Mae Aelod o Senedd Ewrop wedi awgrymu y gallai’r broses o ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd fod yn un “gymharol gyflym” i’r Alban – os y daw’r wlad yn annibynnol.

Yn ôl y gwleidydd Almaenaidd, Elmar Brok, ni fyddai Alban fel gwlad annibynnol yn wynebu llawer o rwystrau, gan fod y wlad eisoes yn cwrdd â meini prawf ar gyfer dod yn aelod.

“Mae ‘r Alban yn barod yn cwrdd â’r meini prawf. Ni fyddai rhwystrau i’r Alban gan fod y cyfreithiau angenrheidiol eisoes wedi eu gweithredu yno,” meddai.

Daw’r sylwadau ond ychydig ddyddiau wedi i Weinidog Tramor Sbaen, Alfonso Dastis, ddweud na fyddai Sbaen yn atal cais yr Alban i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn sgil refferendwm 2016 lle wnaeth 62% o Albanwyr bleidleisio i aros yn Ewrop a gyda Brexit ar y gorwel, mae Nicola Sturgeon wedi mynnu bod yn rhaid cynnal ail refferendwm annibyniaeth.