Mark Reckless, AC De Ddwyrain Cymru
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau y bydd Mark Reckless yn ymuno â nhw yn y Cynulliad wedi iddo adael UKIP.

Mae’r newid yn y grwpiau yn golygu mai’r Ceidwadwyr yw’r wrthblaid swyddogol yn y Senedd erbyn hyn.

Cafodd Mark Reckless ei ethol fel Aelod Cynulliad UKIP dros ranbarth De-ddwyrain Cymru ym mis Mai.

Roedd yn arfer bod yn Aelod Seneddol i’r Ceidwadwyr yn Lloegr cyn iddo adael er mwyn ymuno ag UKIP.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod “wrth ei fodd” o’i groesawu i’r grŵp.

“Mae penderfyniad Mark i ymuno â’r grŵp yn destun i gryfder ac undod tîm y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd sy’n rhoi’r unig wrthwynebiad i weinyddiaeth Lafur flinedig a hunanfodlon,” ychwanegodd.

Dywedodd Mark Reckless ei fod am fod yn rhan o dîm “fydd yn taflu goleuni ar fethiannau Llafur Carwyn Jones a’i ffrindiau ym Mhlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.”

Newyddion “gwych i Lafur”

O ganlyniad i benderfyniad Mark Reckless, mae’n edrych yn debyg y bydd Plaid Cymru yn colli un o’i rolau yn cadeirio ar bwyllgorau’r Senedd.

Yn ôl ffynhonnell yn y Blaid Lafur, mae’r newyddion yn “wych” iddyn nhw, gan ei fod yn ‘niweidio Plaid Cymru, yn darfod UKIP ac yn gwneud y Torïaid yn blaid gas eto.’

Mae UKIP wedi galw arno i sefyll i lawr a rhoi’r sedd i un o’i hymgeiswyr.