Mae’r Blaid Lafur yn ymchwilio i ymddygiad Ken Livingstone yn y cyfnod ar ôl iddo gael ei wahardd dros dro am ei sylwadau’n cysylltu Adolf Hitler a Seioniaeth.

Daeth cadarnhad o’r ymchwiliad gan arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn ar ôl i aelodau seneddol ac aelodau’r cabinet cysgodol fynegi eu dicter nad oedd e wedi cael ei wahardd yn gyfan gwbl.

Dywedodd Jeremy Corbyn ei fod e’n “siomedig” nad yw Ken Livingstone wedi cynnig ymddiheuriad am ei sylwadau “difrifol ansensitif” ac am y niwed i’r gymuned Iddewig.

Yn dilyn y penderfyniad i beidio â gwahardd Ken Livingstone yn llwyr, dywedodd dirprwy arweinydd y blaid, Tom Watson fod yr achos yn destun “cywilydd i ni i gyd”.

Bydd Pwyllgor Gwaith y blaid yn mynd ati i adolygu’r penderfyniad a phenderfynu a fydd rhagor o gamau yn ei erbyn.

Mae Ken Livingstone wedi dweud ei fod e’n ceisio cyngor cyfreithiol, gan ychwanegu na “allwch chi ymddiheuro am ddweud y gwir”.

Cafodd ei wahardd dros dro ar ôl dweud bod Adolf Hitler yn cefnogi Seioniaeth yn y 1930au cyn “mynd yn wallgof a lladd chwe miliwn o Iddewon”.

Ond mae’n gwadu ei fod e wedi dweud bod Hitler yn cefnogi Seioniaeth.

Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu cyhuddo o esgeuluso’r gymuned Iddewig wrth ymdrin â’r mater.