Mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi pleidleisio tros fod yn llym yn ystod y trafodaethau wrth i wledydd Prydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ategodd llywydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker, a’r prif negydwr Brexit, Michel Barnier, eu gwrthwynebiad i gynnal trafodaethau Brexit a masnach ochr yn ochr.

Maen nhw’n mynnu bod rhaid aros tan bod Prydain wedi cytuno ar delerau Brexit cyn gallu trafod cytundebau masnach oddi allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y ddau y byddai’n rhaid i Brydain dalu ffi am dorri’r cytundeb i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond maen nhw’n mynnu nad ydyn nhw’n ceisio eu cosbi.

Mae lle i gredu mai oddeutu £50 biliwn yw’r ffi am adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Nigel Farage wedi ei alw’n “fath o daliad pridwerth”.

Ond mae Michel Barnier yn mynnu mai “setlo cyfrifon” yw eu bwriad.

Brexit

Mae Aelodau Seneddol Ewropeaidd wedi cefnogi cynnig – o 560 i 133 – sy’n amlinellu nifer o amodau er mwyn i wledydd Prydain weithredu Erthygl 50.

Fe fydd Senedd Ewrop yn cael rhoi sêl bendith i’r amodau ymhen dwy flynedd, ac maen nhw eisoes wedi mynnu na fydd Prydain yn cael dewis pa rannau o’r Undeb Ewropeaidd maen nhw am eu cadw, gan gynnwys y Farchnad Sengl.

Nigel Farage

Mae Nigel Farage wedi darogan y gallai nifer o wledydd eraill Ewrop ddilyn esiampl Prydain drwy adael yr Undeb Ewropeaidd pe bai’r amodau’n llym.

“Os nad ydych chi’n dymuno cael cytundeb, os ydych chi’n dymuno ein gorfodi ni i gerdded i ffwrdd o’r bwrdd, nid ni fydd yn cael niwed.

“Does dim rhaid i ni brynu ceir Almaenig, does dim rhaid i ni yfed gwin Ffrengig, does dim rhaid i ni fwyta siocled o Wlad Belg. Mae llawer o bobol eraill fydd yn rhoi’r rhain i ni.”

Ychwanegodd fod y ffrae rhwng Sbaen a’r Deyrnas Unedig ar fater Gibraltar wedi dangos bod Senedd Ewrop yn “gas”.