Llun: PA
Mae pwyllgor seneddol wedi herio Theresa May i brofi’r awgrym bod “dim cytundeb” Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd yn well na chytundeb gwael.

Mae’r Pwyllgor Seneddol sy’n ymwneud a Gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi galw ar y Llywodraeth i gynnal a chyhoeddi asesiad manwl o’r canlyniadau economaidd o adael yr Undeb heb gytundeb ar fasnach yn y dyfodol.

O dan yr amgylchiadau yma, dywedodd y pwyllgor y byddai’n rhaid i’r Senedd gael pleidlais ynglŷn â derbyn penderfyniad y Prif Weinidog i adael heb gytundeb ar ddiwedd y broses ddwy flynedd o negydu Brexit.

Mae’r adroddiad wedi achosi rhaniadau o fewn y pwyllgor amlbleidiol, gyda chwe Aelod Seneddol sydd o blaid Brexit yn pleidleisio yn erbyn ei gyhoeddi. Dywedodd John Whittingdale bod yr adroddiad yn “rhy negyddol.”

Ond fe gawson nhw eu trechu gan 10 aelod arall y pwyllgor a oedd wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE yn y refferendwm y llynedd.