Mae pobol anabl yn y Deyrnas Unedig yn cael eu trin yn eilradd, yn ôl adroddiad newydd.
Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod pobol anabl yn cael “eu gadael ar ôl mewn cymdeithas, â chyfleoedd bywyd gwael a dydy agweddau’r cyhoedd heb newid.”
Mae’r adroddiad hefyd wedi dod i’r canfyddiad bod pobol anabl yn wynebu rhwystrau o ran addysg, trafnidiaeth, gwasanaethau iechyd a mynediad i addysg.
“Mae’n rhaid i ni roi hawliau pobol anabl yn gyntaf. Ni allwn, a ni ddylwn adael i’n hunain ailadrodd y gorffennol dros yr ugain mlynedd nesaf,” medd Cadeirydd y Comisiwn, David Isaac.
Gwelliannau
Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig i fynd ati i osod ffocws ar gydraddoldeb i bobol anabl.
“Fe fyddwn yn ystyried darganfyddiadau’r adroddiad ac yn ymateb yn ei bryd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Caiff sawl gwelliant eu cynnig gan y Comisiwn gan gynnwys, sicrhau cyflogau cydradd, darpariaeth gwasanaethau allweddol a gwella cyfreithiau sydd eisoes yn bodoli i amddiffyn hawliau pobol anabl.
“Byw mewn tlodi”
Yn ôl yr adroddiad:
- Dim ond 47.6% o bobol anabl sydd yn gweithio o gymharu â 80% o bobol eraill.
- Mae mwy o bobol anabl yn byw mewn tlodi.
- Roedd 18.4% o bobol anabl rhwng 16-64 oed yn wynebu tlodi bwyd.