Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae Theresa May wedi amddiffyn ei chysylltiadau gyda Saudi Arabia wrth iddi deithio i Riyadh ar gyfer trafodaethau masnach.

Mae’n dilyn beirniadaeth o gytundeb Prydain i werthu arfau i’r deyrnas. Mae’r Prif Weinidog wedi wynebu galwadau cynyddol i roi’r gorau i werthu arfau i Saudi Arabia ar ôl i nifer o bobl gyffredin gael eu lladd mewn cyrchoedd bomio yn Yemen, sy’n cael eu harwain gan Saudi Arabia.

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar Theresa May i atal allforio arfau i’r dalaith ar unwaith a’i hannog i gefnogi ymchwiliad annibynnol i droseddau rhyfel yn ystod y gwrthdaro.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd hi’n codi’r mater yn ystod y trafodaethau.