Mae Sbaen wedi galw ar y Deyrnas Unedig i “bwyllo” yn dilyn sylwadau cyn-arweinydd y blaid Geidwadol, yr Arglwydd Michael Howard, am fynd i ryfel tros Gibraltar.

Mae nifer o ffigyrau wedi eu cythruddo gan ddogfen sy’n awgrymu y bydd Lywodraeth Sbaen yn cael ymgynghori ar benderfyniadau fydd yn effeithio Gibraltar yn ystod trafodaethau Brexit.

Yn ystod cyfres o gyfweliadau teledu, gwnaeth Michael Howard gymharu’r sefyllfa i Ryfel y Malfinas a dywedodd byddai Prydain yn barod i fynd i ryfel er mwyn cadw gafael ar Gibraltar.

Mynnodd Arweinydd Gibraltar, Fabian Picardo, na fyddai’r diriogaeth yn cael ei drin fel “modd o fargeinio” yn ystod trafodaethau masnach y Deyrnas Unedig ag Ewrop.

Gan ymateb i’r sylwadau mewn cynhadledd i’r wasg ym Madrid, dywedodd gweinidog tramor Sbaen bod Llywodraeth y wlad wedi eu “synnu gan dôn y sylwadau.”

Mae Sbaen yn honni hawl ar diriogaeth Gibraltar – tiriogaeth sydd wedi bod dan feddiant y Deyrnas Unedig ers 1713.